Elin Jones AS
 Y Llywydd
     

    

8 Gorffennaf 2020

Annwyl Lywydd,

Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Ysgrifennaf atoch yn dilyn ymddiswyddiad David Rowlands AS o'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd i amlinellu sut yr ydym yn bwriadu cwblhau ein gwaith.

Ers sefydlu'r Pwyllgor ym mis Medi 2019, mae holl aelodau'r Pwyllgor wedi gweithio gyda'i gilydd ar sail drawsbleidiol i gasglu tystiolaeth, trafod a dod i gasgliadau cychwynnol ar nifer o faterion. Mae'n siomedig felly fod Plaid Brexit wedi penderfynu tynnu'n ôl o'r broses ar hyn o bryd.

Serch hynny, mae materion sy'n ymwneud â chapasiti’r Senedd, ei hamrywiaeth a sut mae Aelodau'n cael eu hethol yn parhau i fod o arwyddocâd cyfansoddiadol sylfaenol. Felly, rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cyn diwedd toriad yr haf sy'n defnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd gennym, ac sy'n nodi ein casgliadau a'n hargymhellion ar y materion sydd o fewn ein cylch gwaith.

Er mwyn hwyluso'r dull hwn, rwy'n bwriadu, yn amodol ar eich barn chi fel Llywydd, ddefnyddio fy mhŵer o dan Reol Sefydlog 17.46 i alw cyfarfod ffurfiol o'r Pwyllgor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 3 Awst 2020. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn breifat, ac ni fydd unrhyw oblygiadau i staff Comisiwn y Senedd heblaw tîm integredig y Pwyllgor.

Yn gywir

Dawn Bowden AS
Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg | We welcome correspondence in Welsh or English.